Growth Track 360 Launch

gweledigaeth £1 biliwn i’r rheilffyrdd i greu 70,000 o swyddi

Mae ymgyrch sylweddol wedi cael ei lansio i sicrhau gwerth £1 biliwn o welliannau i reilffyrdd a fyddai’n trawsnewid economi ranbarthol Gogledd Cymru a Sir Gaer ac yn creu 70,000 o swyddi newydd dros 20 mlynedd.

Mae’r ymgyrch – sy’n cael ei alw’n Growth track 360 – yn cael ei arwain gan gynghrair traws-ffiniol o arweinwyr busnes, gwleidyddol a’r sector cyhoeddus.

Os byddaf yn llwyddiannus, byddai’n arwain at hwb enfawr i economïau Gogledd Cymru, Sir Gaer a Chilgwri, gan eu cysylltu â lein arfaethedig yr HS2 rhwng Llundain a Gogledd Lloegr.

Mae’r ymgyrch yn galw am:

  • trydaneiddio’r rheilffordd o Grewe i Ogledd Cymru fel y gellir cysylltu’r rhanbarth â HS2 ac y gall trenau cyflym o Lundain barhau i Fangor a Chaergybi
  • dyblu amlder y trenau rhwng Lein Arfordir Gogledd Cymru a Wrecsam i Fanceinion trwy Gaer
  • Buddsoddi mewn stoc trenau newydd, modern, gyda gwell cyfarpar
  • Creu gwasanaethau newydd rhwng Lerpwl a Maes Awyr Lerpwl i Ogledd Cymru a Wrecsam drwy Gaer (Halton Curve)
  • Dyblu amlder teithiau rhwng Wrecsam a Lerpwl trwy Lannau Dyfrdwy a Bidston.

Byddai gwelliannau i orsafoedd yn gysylltiedig â’r cynigion i uwchraddio cyfleusterau a gallu a chreu system docynnau clyfar i’w gwneud yn rhatach ac yn haws i gynllunio teithiau.

Hefyd, rydym yn ceisio cael ymagwedd newydd tuag at fasnachfreintiau i wella gwasanaethau ac uwchraddio signalau a chyflymder rheilffyrdd er mwyn gwella amseroedd teithio.

Mae’r ymgyrch yn cael ei arwain gan Dasglu Trenau Gogledd Cymru a Mersi a’r Dyfrdwy ac mae wedi cael cefnogaeth gan wyth awdurdod lleol y rhanbarth, Partneriaeth Fenter Lleol Sir Gaer a Warrington, Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Siambr Fasnach Gorllewin Sir Gaer a Gogledd Cymru.

Mae ymchwil cychwynnol yn awgrymu y byddai darparu’r gwelliannau’n arwain at amcangyfrif o 70,000 o swyddi newydd ar draws rhanbarth Gogledd Cymru a Mersi a’r Dyfrdwy a chyflymu twf economaidd fel bod GVA (gwerth nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir bob blwyddyn yn y rhanbarth) yn tyfu i £50.5bn mewn 20 mlynedd.

Ystyrir y cynigion fel pecyn integredig a phecyn cysylltiedig o fuddsoddiad tymor hir a fydd yn gofyn am ymrwymiad parhaus i gymell defnydd teithwyr, gan leihau dibyniaeth ar gludiant ar y ffyrdd.

Dywedodd Ashley Rogers, Cadeirydd Cyngor Busnes Gogledd Cymru: “Byddai pob sector o’n heconomi a phob cymuned yn y rhanbarth yn elwa’n aruthrol o’r buddsoddiad sydd ei ddirfawr angen ers tro. Fedrwn ni ddim fforddio i’r rhan hon o’r DU ddod yn rhanbarth Sinderela, wedi’i gadael ar ôl yn y ras am fuddsoddiad ac yn uchelgais y Llywodraeth ar gyfer y Northern Powerhouse.”

Dywedodd Colin Brew, Prif Weithredwr Siambr Fasnach Gorllewin Sir Gaer a Gogledd Cymru: “Bydd gallu ychwanegol ac amseroedd teithio cyflymach ar ein rhwydwaith rheilffyrdd yn lleihau tagfeydd ar y ffyrdd ac yn gwella symudiadau cymudwyr, ymwelwyr a chludiant nwyddau ar draws y rhanbarth yn aruthrol.

Mae’r ymgyrch eisoes wedi sicrhau cefnogaeth i fusnesau ar draws y rhanbarth ac wedi cyhoeddi prosbectws – “Growth Track 360, Connected within an hour” – sy’n cael ei gyflwyno i uwch swyddogion y Llywodraeth yn Llundain a Chaerdydd.

Bydd yr ymgyrch hefyd yn lobïo ffigurau uchel yn y diwydiant rheilffyrdd i greu achos dros y buddsoddiad.

Dywedodd Mr Rogers: “Rydym yn amlwg yn ceisio am fuddsoddiad sylweddol a chymhleth, felly ar hyn o bryd rydym yn gofyn i’r Llywodraeth ymrwymo i gyllid digonol i sefydlu grŵp diwydiant rheilffyrdd i gefnogi ein tasglu i gomisiynu gwaith dichonoldeb ar y prosiect fel y gellir gwneud achos cadarn a manwl dros y buddsoddiad.

“Rydym hefyd yn gofyn am ymrwymiad i gyflymu gwaith ar brosiectau hir-ddisgwyliedig, gan gynnwys gwelliannau i signalau a chyflymder y lein ar hyd arfordir gogledd Cymru; lein Cromlin Halton rhwng Gogledd Cymru a Lerpwl; a gwelliannau i gyflymder rheilffyrdd o’r gogledd i’r de.”

A major campaign has been launched to secure £1bn of rail improvements which would transform the North Wales and Cheshire regional economy and deliver 70,000 new jobs over 20 years.

Yn y llun uchod – (Chwith – Dde) Cllr Derek Butler, Cllr Samantha Dixon, Ashley Rogers, Cllr Dilwyn Roberts, Colin Brew a Ken Skates AM.