Growth Track 360 yn croesawu cyhoeddiad cynigydd llwyddiannus ar gyfer masnachfraint rheilffyrdd Cymru a’r Gororau

Mae Tasglu Rheilffyrdd Gogledd Cymru a Mersi a’r Ddyfrdwy, y grŵp y tu ôl i ymgyrch Growth Track 360, yn croesawu’r cyhoeddiad heddiw bod Keolis Amey wedi’u cadarnhau fel y cynigydd llwyddiannus ar gyfer Masnachfraint Cymru a’r Gororau.   

Mae hwn yn gyhoeddiad hanfodol gan ein bod yn ystyried y fasnachfraint newydd fel cyfle i ddarparu gwelliannau trawsnewidiol i wasanaethau rheilffordd ar draws Gogledd Cymru a Mersi a’r Ddyfrdwy.

Cawsom drafodaethau adeiladol gyda Keolis Amey yn ystod y broses gwneud cynnig. Rydym nawr yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau trên gwell, cyflymach ac wedi’u cysylltu’n well. Mae Growth Track 360 wedi gwneud yr achos drosodd a throsodd yn y blynyddoedd diwethaf nad yw’r rhwydwaith rheilffyrdd yn cefnogi ein heconomi’n ddigonol.    Gall gwasanaethau trên effeithiol a fforddiadwy gefnogi twf cryf cyson economi Gogledd Cymru a Mersi a’r Ddyfrdwy a helpu i reoli a lleihau tagfeydd trafnidiaeth yn ogystal â lleihau allyriadau carbon

Nid yw Growth Track 360 yn gweithio ar wahân ac mae wedi’i gysylltu i greu rhwydweithiau trafnidiaeth integredig sy’n cynnwys teithio ar fws, ceir preifat a theithio llesol ledled cysyniad Metro Gogledd Cymru, Bargen Dwf Gogledd Cymru a buddsoddiad arfaethedig yn yr ardal drawsffiniol.

Dywedodd y Cyng. Samantha Dixon, Cadeirydd Tasglu Rheilffordd Gogledd Cymru a Mersi a’r Ddyfrdwy,

Mae’r fasnachfraint newydd yn gyfle ar gyfer newid trawsnewidiol yn ein gwasanaethau trên. Mae Growth Track 360 wedi gweithio’n ddiwyd gyda Llywodraethau Cymru a’r DU a’r cynigwyr i gynnig gwasanaethau a buddsoddiadau newydd yn ein seilwaith rheilffyrdd i wella gwasanaethau trên a’r cysylltiad â’r economi.

Rydym yn hynod ddiolchgar i Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet Economi a Thrafnidiaeth yng Nghymru sydd wedi cwrdd â ni yn rheolaidd ac wedi gwrando ar ein syniadau ar gyfer gwasanaethau gwell a’n hannog i ymgysylltu â chynigwyr.  Trwy ein gwaith gyda’r Gweinidog rydym yn hyderus bod ein dyheadau ar gyfer ardal Gogledd Cymru a Mersi a’r Ddyfrdwy wedi gwneud argraff ar ein cynigwyr llwyddiannus.

Rydym yn dawel ffyddiog pan fydd manylion y fasnachfraint yn cael eu cyhoeddi y gellir gweld y gwelliannau mewn gwasanaethau a bydd gennym blatfform i weithio gyda’r deilydd masnachfraint i weithredu newidiadau mewn gwasanaethau sy’n cael effaith fuddiol ar fywydau bob dydd ein dinasyddion.”

Dywedodd y Cyng. Aaron Shotton, Cadeirydd, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ac aelod o Dasglu Rheilffordd Gogledd Cymru a Mersi a’r Ddyfrdwy,

“Ar hyn o bryd, er nad yw manylion y cynnig llwyddiannus yn hysbys, rydym yn disgwyl gweld gwelliannau i wasanaethau trên a ddarperir i’n hardal gan y fasnachfraint newydd.    Mae’n hanfodol ein bod yn cael gwasanaethau a seilwaith rheilffordd gwell ar gyfer datblygu datrysiadau cludiant cyhoeddus integredig sy’n lleihau tagfeydd ac allyriadau carbon. Rydym wedi cysylltu cynigion trafnidiaeth o fewn Cynnig Twf Gogledd Cymru fydd yn helpu i wneud cludiant cyhoeddus yn fwy perthnasol i deithio i’r gwaith ac felly gwasanaethu ein heconomi yn well drwy blethu gyda masnachfraint Cymru a’r Gororau gwell.

Rydym yn edrych ymlaen at gael mwy o wybodaeth ar y cynnig buddugol a sut y gallwn sefydlu perthynas waith cadarn i gyflawni gwasanaethau trên gwell yn ardaloedd Gogledd Cymru a Mersi a’r Ddyfrdwy.”