Growth Track 360

wedi cysylltu o fewn awr

Lleihau amseroedd teithio trafnidiaeth gyhoeddus drws i ddrws i lai nag awr.
Cysylltu Gogledd Cymru a Swydd Gaer yn well yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Helpu i ddarparu £25bn o werth ychwanegol gros i’r economi lleol
Mae Growth Track 360 wedi cael ei lansio i ddiogelu £1bn o welliannau rheilffordd a fyddai’n trawsnewid economïau rhanbarthol Gogledd Cymru a Swydd Gaer ac yn cynnig 70,000 o swyddi newydd dros 20 mlynedd.
Mae’n cael ei arwain gan gynghrair trawsffiniol o arweinwyr busnes, gwleidyddol a’r sector gyhoeddus.
Os yw’n llwyddiannus, byddai’n arwain at hwb enfawr i economïau Gogledd Cymru, Swydd Gaer a Chilgwri, gan eu cysylltu â’r llinell HS2 arfaethedig rhwng Llundain a Gogledd Lloegr.
 

Dewch i wybod sut i gefnogi’r ymgyrch