Mae Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a’r Gororau yn cynnig “Cyfle i Wella Gwasanaethau Rheilffordd” i Ogledd Cymru a Rhanbarth Mersi Dyfrdwy.

Mae Growth Track 360 wedi ymgyrchu ar gyfer gwelliannau mawr yn y seilwaith a gwasanaethau rheilffordd yng Ngogledd Cymru a Mersi Dyfrdwy gyda phwyslais arbennig ar wella gwasanaethau i Lerpwl a Manceinion. Mae Masnachfraint newydd Cymru a’r Gororau yn gam ymlaen i sicrhau system rheilffordd “addas i bwrpas” sy’n cefnogi dyheadau’r rhanbarth ar gyfer twf a ffyniant economaidd.

Dywedodd y Cynghorydd Samantha Dixon, Cadeirydd Bwrdd Growth Track 360 ac Arweinydd Cyngor Gorllewin Sir Gaer a Chaer: “Mae Growth Track 360 yn croesawu manylebau cychwynnol y fasnachfraint newydd. Mae’r cynigion yn mynd yn bell i gyflawni uchelgais ar gyfer ein rhwydwaith a nodwyd ym mhrosbectws Growth Track 360.

“Rydym yn croesawu’r ymrwymiadau ar gyfer trenau uniongyrchol i Lerpwl o Ogledd Cymru yn arbennig, y cynigion ar gyfer stoc rholio gwell gyda mwy o gapasiti, y cadarnhad hir-ddisgwyliedig am wasanaethau ychwanegol rhwng Wrecsam a Bidston, amseroedd siwrnai cyflymach a rhaglen uchelgeisiol o welliannau mewn gorsafoedd.

“Mae’r newyddion da ar y fasnachfraint yn adeiladu ar ymrwymiadau’r Adran Drafnidiaeth i baratoi ac ystyried achosion busnes ar gyfer cyflymder gwell ar reilffordd Arfordir Gogledd Cymru a Wrecsam i Bidston. Rydym hefyd yn derbyn cefnogaeth ar gyfer gwelliannau yng Ngorsaf Caer fydd yn galluogi mwy o wasanaethau drwodd i mewn ac allan o Ogledd Cymru. “

Mae Bwrdd GT360 wedi dysgu bod gwella gwasanaethau trên yn broses araf ac mae yna lawer mwy i’w wneud. Mae’r gost o ddatblygu achosion busnes ar gyfer buddsoddi yn y rheilffyrdd yn fater heriol iawn. Byddwn yn parhau i ymgyrchu dros: –

  • Integreiddio i’r prosesau cynllunio ar gyfer Cludiant i’r Gogledd.
  • Gwell cysylltiad gyda Manceinion a’i Faes Awyr yn arbennig
  • Gwell cysylltiad gyda Crewe a HS2
  • Tri chanolbwynt strategol o fewn coridor y Gorllewin a Chymru yn cysylltu i reilffordd Pwerdy Gogledd Lloegr, Maes Awyr Manceinion a HS2 yn Crewe.
  • Trydaneiddio’r gwasanaeth o Gaer i Warrington i alluogi gwasanaethau trydanol i Fanceinion.
  • Trydaneiddio’r llinell o Gaergybi i Crewe gyda gwasanaethau cydweddol yn rhedeg o Ogledd Cymru ar y llinell HS2 i Lundain.

Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Cadeirydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Aelod Bwrdd GT360 ac Arweinydd Cyngor Sir Y Fflint: “Byddwn yn gweithio gyda Keolis Amey, Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru i gymryd y cyfleoedd a gynigir gan y fasnachfraint newydd a sicrhau bod ymrwymiadau’r dyfodol fel stoc rholio newydd yn cael eu darparu “ar amser”.

“Mae Growth Track 360 yn ymgyrchu ar gyfer rhwydwaith rheilffordd a gwasanaethu sy’n gallu cefnogi cyflogaeth a thwf economaidd drwy alluogi mwy o bobl i ddefnyddio’r rheilffordd yn lle’r car. Mae’r cynigion masnachfraint yn rhoi platfform i ni weithio ar syniadau yn y Cynnig Twf Gogledd Cymru i greu canolbwyntiau cludiant integredig o amgylch ein prif orsafoedd a chysylltu gwasanaethau trên gyda phrif ganolfannau poblogaeth, cyflogaeth, manwerthu a darparu gwasanaeth iechyd.

“Mae’r bwriad i ostwng prisiau yng Ngogledd Cymru yn gyfle mawr i wneud i wasanaethau trên gefnogi’r economi ynghyd â buddsoddi mewn gorsafoedd (e.e. mwy o fannau parcio) a chanolbwyntiau cludiant yng Nglannau Dyfrdwy, Shotton a Wrecsam. Rydym yn gobeithio defnyddio’r Cynnig Twf i gyflwyno mentrau tebyg ar draws Gogledd Cymru.

“Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Keolis Amey a Thrafnidiaeth Cymru i ddatblygu cynigion trên cymunedol gwell ar ein prif lwybrau gan gynnwys Dyffryn Conwy a Wrecsam i Bidston.

“Mae Growth Track 360 yn bartneriaeth sy’n darparu ar gyfer Gogledd Cymru drwy weithio mewn partneriaeth gyda phartneriaid ar draws y gororau sydd â diddordebau strategol ac economaidd cyffredin.

“Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu gwaith ar y fasnachfraint sydd wedi creu’r cyfleoedd i ddatblygu ein rhwydwaith rheilffordd.”

Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates: “Mae mwy na 23,000 o deithwyr yn teithio o Ogledd Cymru i Ogledd Orllewin Lloegr bob dydd ac 20,000 i’r cyfeiriad arall sy’n brif reswm pam fod gennym gysylltedd rheilffordd ardderchog sy’n hanfodol i’r economi ar y ddwy ochr o’r ffin.

“Mae’n amser pwysig yn hanes y rheilffordd yng Nghymru a’r wythnos ddiwethaf cyhoeddais fanylion pellach am Fasnachfraint newydd Cymru a’r Gororau. Rwy’n gwbl hyderus y bydd ein contract gwasanaethau trên newydd yn darparu gwelliant yn y gwasanaeth a ddarperir i deithwyr ar brif linell arfordir Gogledd Cymru ac ar draws Cymru a’r Gororau.

“Mae’r ymgyrch Growth rack 360 wedi bod yn brif ddylanwad ar y gwelliannau arfaethedig i ardaloedd Gogledd Cymru a’r Mersi Dyfrdwy yng nghontract gwasanaeth rheilffordd newydd Cymru a’r Gororau. Rwyf wedi gweithio’n agos gyda Growth Track 360 ac rwy’n ddiolchgar am eu cefnogaeth. Byddaf yn parhau i gefnogi eu gwaith yn hybu’r prif fuddsoddiadau angenrheidiol i wella cysylltedd rheilffordd a mwyhau’r manteision y gall buddsoddi yn y rheilffyrdd ei gynnig i’r economi.”

 

 

DIWEDD

 

Cysylltiadau

Cynghorydd Dixon:

Rhif ffôn: 01244 972216

E-bost: pressoffice@cheshirewestandchester.gov.uk

 

Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

Iwan Prys Jones, 07796 930180

 

Llywodraeth Cymru:

Swyddfa: 0300 062 5477
Symudol: 07875 384 239

E-bost: Shaun.Holden@Gov.Wales

 

Nodiadau i Olygyddion:

Mae ymgyrch Growth Track 360 yn cael ei yrru gan Dasglu Rheilffordd Gogledd Cymru a’r Mersi Dyfrdwy gyda chefnogaeth wyth awdurdod lleol y rhanbarth, Partneriaeth Menter Sir Gaer a Warrington, Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Siambr Fasnach Gorllewin Sir Gaer a Gogledd Cymru.

Mae’r ymgyrch yn galw am:

  • Drydaneiddio’r llinell o Crewe i Ogledd Cymru fel y gellir cysylltu’r rhanbarth i HS2 a gall trenau cyflym Llundain barhau i Fangor a Chaergybi.
  • Trydaneiddio’r llinell o Gaer i Warrington i gysylltu gwasanaethau Rheilffordd Pwerdy Gogledd Lloegr
  • Dyblu amlder trenau rhwng Llinell Arfordir Gogledd Cymru a Wrecsam i Fanceinion drwy Gaer
  • Buddsoddi mewn stoc rholio newydd, modern, gwell
  • Creu gwasanaethau newydd rhwng Lerpwl a Maes Awyr Lerpwl i Ogledd Cymru a Wrecsam drwy Gaer (Tro Halton)
  • Dyblu amlder siwrnai rhwng Wrecsam a Lerpwl drwy Lannau Dyfrdwy a Bidston

Mae ymchwil cychwynnol yn awgrymu y byddai darparu gwelliannau yn arwain at amcangyfrif o 70,000 swydd newydd ar draws rhanbarth Gogledd Cymru a Mersi Dyfrdwy ac yn rhoi twf economaidd ar drywydd cyflym fel bod gwerth ychwanegol gros (gwerth nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir bob blwyddyn yn y rhanbarth) yn tyfu i £50.5bn mewn 20 mlynedd.

Gellir lawrlwytho copïau o’r prosbectws Growth Track yn www.growthtrack360.com