cymerwch ran

Os ydych yn byw yng Ngogledd Cymru, Swydd Gaer neu’r Wirral, byddai cysylltiadau trên gwell yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’ch bywyd. Ac i genedlaethau’r dyfodol.
Byddai’n haws cyrraedd swyddi a chleientiaid busnes sy’n ymddangos allan o’ch cyrraedd ar hyn o bryd – gan agor y drws i gyfleoedd newydd a helpu i greu dyfodol gwell i bawb.
Felly helpwch ni i wireddu hyn drwy gofrestru i gefnogi Growth Track 360.
Cliciwch yma os ydych yn aelod o’r cyhoedd (er enghraifft preswylydd neu gymudwr).
Neu gliciwch yma os ydych yn fusnes.

 





Tanysgrifiwch i’n e-gylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf am weithgaredd ymgyrch Growth Track 360.




     

    Mae’r ymgyrch yn cael ei gweithredu gan Dasglu Rheilffordd Gogledd Cymru a Merswy a Dyfrdwy ac mae ganddi gefnogaeth wyth awdurdod lleol y rhanbarth, Partneriaeth Menter Leol Swydd Gaer a Warrington, Cynghrair Merswy a Dyfrdwy, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Siambr Fasnach Gorllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru.
    Mae ganddi hefyd gefnogaeth dros 80 o sefydliadau, yn fusnesau, y sector gwirfoddol, sectorau Prifysgol ac AB, ardaloedd menter a grwpiau cymunedol a phreswylwyr.
     

    dangoswch eich cefnogaeth

    Helpwch ni i drawsffurfio y gwasanaeth rheilffordd ledled y rhanbarth drwy gofrestru ar ein hymgyrch Growth Track 360. Mae ond yn cymryd 2 funud.

    Oes- Mae arna’ i eisiau gwasanaethau rheilffordd gwell ar gyfer gwaith a hamdden

    Oes- Mae arna’ i eisiau gwasanaethau rheilffordd gwell ar gyfer fy musnes

     

    Bydd gwella isadeiledd y rheilffyrdd yng Ngogledd Cymru’n dod a buddion i’r Diwydiant Adeiladu yng Ngogledd Cymru.  Bydd cysylltiadau rheilffordd gwell yn denu buddsoddiad ariannol i’r rhanbarth. 

    Nid yw llawer o weithredwyr masnachol a hamdden cenedlaethol yn barod i fuddsoddi yn y rhanbarth yn sgil nifer y boblogaeth bresennol o fewn awr o’u gweithrediadau. 

    Bydd gwneud y dalgylchoedd yn fwy hygyrch o fewn cyfnodau amser gostyngedig yn annog buddsoddiad a fydd yn arwain at gyfleoedd adeiladu a swyddi tymor hir ledled y rhanbarth.

    Mark Watkin Jones Swyddog Prif Gweithredol – Watkin Jones plc

     

     

    Mae cysylltiadau trafnidiaeth o amgylch y rhanbarth yn bwysig i ni fel busnes sy’n tyfu, er mwyn i ni allu symud ein stoc a staff o amgylch yn hawdd. 

    Mae canran fawr o’n busnes yn dod o fewn ein rhanbarth, yn enwedig Manceinion a Lerpwl, ac yn aml rhoddir gwybod am drafnidiaeth reilffordd sy’n anaml ac yn cymryd llawer o amser fel rhywbeth negyddol gan y cwsmeriaid hyn. 

    Os y gellid ei gwella, byddem yn gweld effaith gadarnhaol pendant ar ein busnes.

    Jonathan Slater, MD, Oddfellows

     

     

    Mae NCRUG wedi bod yn ymgyrchu’n hir am fwy o drenau amlach a hirach ar y daith Manceinion/Gogledd Cymru, lle mae gorlewnwi yn ystod amser prysur yn achosi galw ataliedig ar hyd y daith gyfan. 

    Mae priffyrdd yr M56/A55 yn dioddef o draffig sy’n symud yn araf y rhan fwyaf o’r diwrnod i’r ddau gyfeiriad y gellid ei leihau petai gwasanaeth rheilffordd cyflym ac aml ar gael. 

    Ced Green, Grŵp Defnyddwyr y Rheilffordd Gogledd Sir Gaer