manceinion a lerpwl yn cefnogi ymgyrch rhwydwaith rheilffordd gwerth £1 biliwn

Mae ffigurau uwch o Fanceinion a Lerpwl wedi dod ynghyd i gefnogi ymgyrch i sicrhau £1 biliwn o welliannau i reilffyrdd ar draws Gogledd Cymru a Sir Gaer.

Mae arweinydd Cyngor Dinas Manceinion Syr Richard Leese a Maer Lerpwl Joe Anderson ymysg amrywiaeth o ffigurau uwch sy’n galw ar y Llywodraeth i gefnogi ymgyrch Growth Track 360.

Mae Chris Oglesby, cadeirydd Partneriaethau Gwyddoniaeth Manceinion a chadeirydd Merseytravel, y Cyngh. Liam Robinson, sydd hefyd yn aelod o’r Tasglu Rheilffordd sy’n arwain yr ymgyrch Growth 360, hefyd wedi dangos eu cefnogaeth i’r ymgyrch.

Mae’r ymgyrch Growth Track 360 yn cael ei arwain gan gynghrair trawsffiniol o arweinwyr busnes, gwleidyddol a’r sector cyhoeddus.

Os bydd yn llwyddiannus, byddai’n arwain at hwb enfawr i economïau Gogledd Cymru, Sir Gaer a Chilgwri, gan eu cysylltu â lein arfaethedig yr HS2 rhwng Llundain a Gogledd Lloegr a’u cysylltu’n well â Manceinion Fwyaf a Rhanbarth Dinas Lerpwl.

Mae arweinwyr Manceinion wedi ymuno â’u cymheiriaid ar draws Gogledd Cymru, Swydd Gaer a Gogledd Orllewin Lloegr yn ehangach wrth alw am y buddsoddiad a fyddai’n trawsnewid yr economi ranbarthol a chefnogi cyflwyno 70,000 o swyddi newydd dros 20 mlynedd.

Mae perchnogion a gweithredwyr busnes hefyd yn cael eu hannog i ddangos eu cefnogaeth, trwy ymuno â’r ymgyrch ar-lein yn www.growthtrack360.com.

Dywedodd Syr Richard Leese: “Mae cysylltedd yn hanfodol i gryfder a datblygiad y rhanbarth. Bydd gwella cysylltiadau trafnidiaeth rhwng Gogledd Cymru, Swydd Gaer a Manceinion Fwyaf yn rhoi hwb pendant i fusnes ac yn cefnogi ein dyheadau ar gyfer Pwerdy Gogleddol.

“Mae agor cymunedau i fyny, cynyddu rhwydweithiau a darparu mynediad i gyfleoedd cyflogaeth ar draws y rhanbarthau yn allweddol i atgyfnerthu ein heconomïau lleol a chreu cyswllt mwy effeithiol ac yn y pen draw, pwerus ac rwy’n cefnogi’r ymgyrch hon yn llwyr.

Dywedodd Joe Anderson: “Mae economïau Glannau Mersi a Gogledd Cymru bob amser wedi cysylltu’n agos ac rydym yn llwyr gefnogi’r ymgyrch Growth Track 360.  Os bydd yn llwyddiannus, bydd yr ymgyrch yn cynhyrchu buddsoddiad ychwanegol sylweddol yn y rhanbarthau, gan gynyddu cyfleoedd cyflogaeth, gan roi hwb i gystadleuaeth ac ysgogi twf.

“Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu busnesau ar ddwy ochr y ffin i gael gwared a’r hualau a grëwyd gan gysylltiadau trafnidiaeth datgymalog a gwan, a chreu cysylltiadau trafnidiaeth hygyrch rhwng datblygiadau mawr fel Ardal Fenter Dŵr Merswy a chanolfannau cyflogaeth allweddol.”

Dywedodd Chris Oglesby:  “Rwy’n falch iawn o fod yn cefnogi’r ymgyrch Growth Track 360. Mae angen i ni roi sicrwydd i gwmnïau sy’n tyfu’n gyflym gydag uchelgeisiau byd-eang fod y Pwerdy Gogleddol ar agor i fusnes a darparu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus effeithlon a fforddiadwy sy’n cysylltu ein trefi a’n dinasoedd rhanbarthol a canolfannau mawr yn hanfodol i hyn.

“Mae gwella cysylltedd ar draws y Gogledd Orllewin, Gogledd Cymru a Sir Gaer hefyd yn agor busnesau ar draws y rhanbarthau, gan eu gwneud yn fwy deniadol i raddedigion uchelgeisiol, symudol a gwella cystadleurwydd y rhanbarth fel canolfan ar gyfer rhagoriaeth mewn sectorau allweddol.”

Dywedodd y Cyngh. Liam Robinson: “Mae buddsoddi mewn a gwella ein rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol os ydym i symud ymlaen fel Pwerdy Gogleddol cysylltiedig a llwyddiannus.  Mae seilwaith trafnidiaeth yn galluogi i hanfod ein heconomi lifo, gan gysylltu pobl gyda lleoedd, a’r galw gyda chyflenwad. Mae hyn yn allweddol i yrru ein heconomïau rhanbarthol ymlaen a sicrhau ein bod yn rym economaidd cryf a chysylltiedig a heb rwydwaith trafnidiaeth effeithiol, bydd ein diwydiannau a chymunedau yn gwanhau.

“Rwy’n cefnogi’r ymgyrch Growth Track 360 ac yn gobeithio gweld y buddsoddiad hwn yn datgloi’r potensial economaidd sy’n segur mewn cynifer o’n trefi a’n dinasoedd a rhoi hwb i’r busnesau uchelgeisiol sy’n galw ein rhanbarth yn gartref.”

Mae’r ymgyrch yn cael ei arwain gan Dasglu Trenau Gogledd Cymru a Mersi a’r Ddyfrdwy ac mae wedi cael cefnogaeth gan wyth awdurdod lleol y rhanbarth, Partneriaeth Fenter Lleol Sir Gaer a Warrington, Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Siambr Fasnach Gorllewin Sir Gaer a Gogledd Cymru.

Mae ymchwil cychwynnol yn awgrymu y byddai pecyn buddsoddiadau Growth Track 360 yn cefnogi amcangyfrif o 70,000 o swyddi newydd ar draws rhanbarth Gogledd Cymru a Mersi a’r Ddyfrdwy a chyflymu twf economaidd fel bod GVA (gwerth nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir bob blwyddyn yn y rhanbarth) yn tyfu i £50.5bn mewn 20 mlynedd.