growthtrack360 backed by business leaders

arweinwyr busnes yn cefnogi ymgyrch rhwydwaith rheilffyrdd gwerth £1biliwn

Mae arweinwyr busnes o bob rhan o’r Gogledd Orllewin, Gogledd Cymru a Swydd Gaer yn cefnogi ymgyrch i sicrhau £1 biliwn o welliannau rheilffyrdd a fyddai’n trawsnewid yr economi ranbarthol a chefnogi cyflwyno 70,000 o swyddi newydd dros 20 mlynedd.

Mae arweinwyr wedi rhoi eu henwau y tu ôl i’r ymgyrch – a elwir yn Growth Track 360 – yn cynnwys Cadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru, Adrian Barsby; Cadeirydd Partneriaeth Twf Caer, Guy Butler; Prif Weithredwr Marchnata Swydd Gaer, Katrina Michel a Jim Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Twristiaeth Gogledd Cymru.

Heddiw roedd y rhai y tu ôl i Growth Track 360 yn annog yr holl berchnogion a gweithredwyr busnes i ddangos eu cefnogaeth, trwy ymuno â’r ymgyrch ar-lein yn www.growthtrack360.com.

Cafodd yr ymgyrch ei lansio’r wythnos ddiwethaf ac mae’n cael ei arwain gan gynghrair traws-ffiniol o arweinwyr busnes, gwleidyddol a’r sector cyhoeddus. Os bydd yn llwyddiannus, byddai’n arwain at hwb enfawr i economïau Gogledd Cymru, Sir Gaer a Chilgwri, gan eu cysylltu â lein arfaethedig yr HS2 rhwng Llundain a Gogledd Lloegr.

Mae dros 79 o arweinwyr busnes proffil uchel o amrywiaeth o sectorau ar draws y rhanbarthau wedi rhoi eu henwau i’r ymgyrch.

Meddai Jim Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Twristiaeth Gogledd Cymru: “Mae ansawdd ein system drafnidiadeth i mewn ac ar draws rhanbarth Gogledd Cymru yn hanfodol i unrhyw gynnig twristiaeth. O ystyried y nifer cynyddol o ymwelwyr sy’n cyrraedd ar y trên, nid oes gennym y gallu i ymdopi â’r galw. Am nifer o flynyddoedd yng Ngogledd Cymru, rydym wedi dioddef gwasanaeth canolig, felly mae unrhyw fuddsoddiad yn y seilwaith rheilffyrdd rhanbarthol i’w groesawu’n gynnes iawn. Rydym yn cymeradwyo ac yn cefnogi’r cynnig hwn yn llwyr ac yn gobeithio o’r diwedd y bydd ansawdd ein seilwaith trafnidiaeth yn cyd-fynd â gweddill yr hyn sydd gan dwristiaeth i’w gynnig yng Ngogledd Cymru.”

Dywedodd Cadeirydd Partneriaeth Twf Caer, Guy Butler: “Mae Partneriaeth Twf Caer, sy’n cynrychioli’r sector busnes yn gwbl gefnogol i’r achos ar gyfer gwell cysylltedd rheilffordd i Gaer.  Mae isadeiledd effeithiol ac effeithlon yn hanfodol i dwf a ffyniant Caer yn y dyfodol. Gall ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer twf a buddsoddiad ond cael eu gwireddu’n llwyr gyda chysylltiadau gwell i farchnadoedd llafur ac integreiddio gyda chanolfannau masnachol eraill.”

Mae’r ymgyrch yn cael ei arwain gan Dasglu Trenau Gogledd Cymru a Mersi a’r Dyfrdwy ac mae wedi cael cefnogaeth gan wyth awdurdod lleol y rhanbarth, Partneriaeth Fenter Lleol Sir Gaer a Warrington, Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Siambr Fasnach Gorllewin Sir Gaer a Gogledd Cymru.

Mae ymchwil cychwynnol yn awgrymu y byddai pecyn buddsoddiadau Growth Track 360 yn cefnogi amcangyfrif o 70,000 o swyddi newydd ar draws rhanbarth Gogledd Cymru a Mersi a’r Dyfrdwy a chyflymu twf economaidd fel bod GVA (gwerth nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir bob blwyddyn yn y rhanbarth) yn tyfu i £50.5bn mewn 20 mlynedd.

Mae’r ymgyrch yn galw am:

  • Drydaneiddio’r rheilffordd o Crewe i Ogledd Cymru fel y gellir cysylltu’r rhanbarth â HS2 ac y gall trenau cyflym o Lundain barhau i Fangor a Chaergybi
  • Buddsoddi mewn stoc trenau newydd, modern, gyda gwell cyfarpar
  • Creu gwasanaethau newydd rhwng Lerpwl a Maes Awyr Lerpwl i Ogledd Cymru a Wrecsam drwy Gaer (Halton Curve)
  • Dyblu amlder y trenau rhwng Lein Arfordir Gogledd Cymru a Wrecsam i Fanceinion trwy Gaer
  • Dyblu amlder teithiau rhwng Wrecsam a Lerpwl trwy Lannau Dyfrdwy a Bidston.

Ystyrir y cynigion fel pecyn integredig a phecyn cysylltiedig o fuddsoddiad tymor hir a fydd yn gofyn am ymrwymiad parhaus i gymell defnydd teithwyr, gan leihau dibyniaeth ar gludiant ar y ffyrdd.

Byddai gwelliannau i orsafoedd yn gysylltiedig â’r cynigion i uwchraddio cyfleusterau a gallu a chreu system docynnau clyfar i’w gwneud yn rhatach ac yn haws i gynllunio teithiau.

Hefyd, rydym yn ceisio cael ymagwedd newydd tuag at fasnachfreintiau i wella gwasanaethau ac uwchraddio signalau a chyflymder rheilffyrdd er mwyn gwella amseroedd teithio.

Mae’r ymgyrch eisoes wedi cyhoeddi prosbectws – “Growth Track 360, Connected within an hour” – sy’n cael ei gyflwyno i uwch swyddogion y Llywodraeth yn Llundain a Chaerdydd.

Bydd yr ymgyrch hefyd yn lobïo ffigurau uchel yn y diwydiant rheilffyrdd i greu achos dros y buddsoddiad.