arweinydd yn galw am wasanaethu trên cyflymach ac amlach

Mae arweinydd Cyngor Caer a Gorllewin Swydd Gaer a Chadeirydd Tasglu Rheilffordd Gogledd Cymru a Mersi a’r Ddyfrdwy (GCaMD) wedi dweud wrth ymchwiliad i Fasnachfraint Rheilffyrdd Cymru a’r Gororau bod pobl leol yn haeddu gwasanaethau amlach a llai o amser teithio.

Mewn ymateb i Ymchwiliad y Pwyllgor Materion Cymreig ar ran Tasglu Rheilffordd GCaMD, bu i’r Cynghorydd Samantha Dixon, sydd hefyd yn gynrychiolydd y Tasglu Rheilffordd ar gyfer Partneriaeth Fenter Leol Swydd Gaer a Warrington, amlinellu’r angen taer i ddiweddaru gwasanaethau yn y rhanbarth.

Cafodd Tasglu Rheilffordd GCaMD, sy’n cynnwys arweinwyr gwleidyddol a sector cyhoeddus a chynrychiolwyr busnes, ei greu i amlygu a hyrwyddo gwelliannau i reilffyrdd ar draws Gogledd Cymru a’r rhanbarth trawsffiniol.

Mae’r tasglu wedi cynhyrchu Prosbectws Rheilffordd Growth Track 360, sy’n nodi gweledigaeth am fuddsoddiad gwerth £1 biliwn yn y rheilffyrdd ar draws Gogledd Cymru a’r rhanbarth trawsffiniol, fyddai’n darparu 70,000 o swyddi newydd a chynyddu gwerth ychwanegol gros (GVA) yr ardal i £50 biliwn.

Mewn tystiolaeth i’r ymchwiliad, dywedodd y Cynghorydd Dixon nad oedd y fasnachfraint gyfredol yn caniatáu ar gyfer twf mewn teithwyr nac yn  darparu ar gyfer trenau ychwanegol, oedd yn cyfyngu ar y gallu i ddatblygu a moderneiddio gwasanaethau.

Ychwanegodd bod rhaid i fasnachfraint nesaf Cymru a’r Gororau gynnwys ymrwymiadau cyfamodol ar gyfer y buddsoddiad hwn a thrawsnewidiad cyffredinol profiad y teithiwr, er mwyn cyflymu newid moddol o’r ffordd i’r rheilffordd.

Amlygodd hefyd bwysigrwydd cynnal y prif lifau teithwyr trawsffiniol yn ogystal â’r rheiny o fewn Cymru y mae masnachfraint Cymru a’r Gororau yn eu gwasanaethu, gan gynnwys y rheiny â Maes Awyr Rhyngwladol Manceinion.

Meddai’r Cynghorydd Dixon: “Mae’r angen taer i ddiweddaru a gwella gwasanaethau’n amlwg, er mwyn diwallu disgwyliadau’r teithwyr ac i gryfhau’r economïau lleol a wasanaethir. Gwella cynhyrchiant yw prif her ein hamser, ac mae darparu cysylltiadau cludiant effeithlon ac effeithiol yn allweddol i hyn o beth.

“Mae masnachfraint Cymru a’r Gororau yn rhan hanfodol o weledigaeth ehangach Growth Track 360, felly mae’n allweddol i’r cytundeb masnachfraint gael ei rwymo’n gyfamodol i ddarparu gwell gwasanaethau, fydd yn diogelu’r system at y dyfodol ac yn galluogi’r gwaith o foderneiddio, uwchraddio ac ehangu’r rhwydweithiau rheilffordd ymhellach.

“Rydym yn falch o gael cyfle i gyflwyno’r corff cadarn hwn o dystiolaeth, sy’n amlwg yn amlinellu pwysigrwydd Masnachfraint Cymru a’r Gororau i lwyddiant y strategaeth gwella rheilffyrdd ehangach, ac edrychwn ymlaen at ymateb yr ymchwiliad.

Mae ymgyrch Growth Track 360 yn cael ei arwain gan Dasglu Rheilffordd Gogledd Cymru a Mersi a’r Ddyfrdwy ac mae wedi cael cefnogaeth gan wyth awdurdod lleol y rhanbarth, Partneriaeth Fenter Leol Swydd Gaer a Warrington, Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Siambr Fasnach Gorllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru.

Mae’r ymgyrch yn galw am:

  • Drydaneiddio’r rheilffordd o Crewe i Ogledd Cymru fel y gellir cysylltu’r rhanbarth â HS2 ac y gall trenau cyflym o Lundain barhau i Fangor a Chaergybi
  • Dyblu amlder y trenau rhwng Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru a Wrecsam i Fanceinion trwy Gaer
  • Buddsoddi mewn cerbydau newydd, modern, gyda gwell cyfarpar
  • Creu gwasanaethau newydd rhwng Lerpwl a Maes Awyr Lerpwl i Ogledd Cymru a Wrecsam drwy Gaer (Halton Curve)
  • Dyblu amlder teithiau rhwng Wrecsam a Lerpwl trwy Lannau Dyfrdwy a Bidston.

Gall pobl ddangos eu cefnogaeth i Growth Track 360 drwy ychwanegu eu henwau at yr ymgyrch ar-lein yn www.growthtrack360.com