amdanom growth track 360

 
Mae Growth Track 360 wedi cael ei lansio i ddiogelu £1bn o welliannau rheilffordd a fyddai’n trawsnewid economïau rhanbarthol Gogledd Cymru a Swydd Gaer ac yn cynnig 70,000 o swyddi newydd dros 20 mlynedd.

 

Mae’n cael ei arwain gan gynghrair trawsffiniol o arweinwyr busnes, gwleidyddol a’r sector gyhoeddus. Os yw’n llwyddiannus, byddai’n arwain at hwb enfawr i economïau Gogledd Cymru, Swydd Gaer a Chilgwri, gan eu cysylltu â’r llinell HS2 arfaethedig rhwng Llundain a Gogledd Lloegr.
Mae’r ymgyrch yn galw am:

 

Drydanu’r llinell o Crewe i Ogledd Cymru er mwyn gallu cysylltu’r rhanbarth â HS2 ac fel y gall trenau cyflym Llundain barhau i Fangor a Chaergybi.
Dyblu amlder y trenau rhwng Llinell Arfordir Gogledd Cymru a Wrecsam i Fanceinion trwy Gaer.
Buddsoddi mewn cerbydau newydd, modern gyda chyfarpar gwell.
Creu gwasanaethau newydd rhwng Lerpwl a Maes Awyr Lerpwl i Ogledd Cymru a Wrecsam trwy Gaer (Cromlin Halton).
Dyblu amlder y teithiau rhwng Wrecsam a Lerpwl trwy Lannau Dyfrdwy a Bidston.
 
Yn gysylltiedig â’r cynigion, byddai gwelliannau i’r gorsafoedd i uwchraddio cyfleusterau a lle a chreu system docynnau ddoeth i wneud cynllunio teithiau’n rhatach ac yn haws.
Mae galw hefyd am ddulliau gweithredu newydd ar gyfer masnachfreintiau i wella gwasanaethau ac uwchraddio arwyddion a chyflymder llinellau er mwyn gwella amseroedd teithio.
 

Am fwy o wybodaeth, lawrlwythwch Brosbectws Growth Track 360