growthtrack360 backed by business leaders

growth track 360 yn sicrhau cefnogaeth grŵp seneddol

Mae’r Tasglu Rheilffordd sy’n arwain ymgyrch Growth Track 360 i sicrhau gwerth £1 biliwn o welliannau i reilffyrdd ar draws Gogledd Cymru a Swydd Gaer, wedi sicrhau cefnogaeth gadarn Grŵp Seneddol Hollbleidiol Gogledd Cymru a Mersi a’r Ddyfrdwy, ar ôl cyflwyno ei brosbectws – Growth Track 360, Wedi cysylltu o fewn awr – i’r Grŵp.

Dywedodd AS Wrecsam, Ian Lucas, Cadeirydd Grŵp Seneddol Hollbleidiol Gogledd Cymru a Mersi a’r Ddyfrdwy (GSH), bod y grŵp yn rhoi ei ‘gefnogaeth gadarn’ i’r ymgyrch. Awgryma gwaith ymchwil y byddai Growth Track 360 yn trawsnewid yr economi ranbarthol, gan roi twf economaidd ar y trywydd cyflym a gwthio’r GVA (sef gwerth nwyddau a gwasanaethau yn y rhanbarth bob blwyddyn) i £50.5 biliwn dros 20 mlynedd a darparu 70,000 o swyddi yn yr un cyfnod.

Mewn llythyr agored gan Mr Lucas ar ran y GSH, dywedodd bod yr economi integredig, trawsffiniol wedi dioddef cynllunio a buddsoddiad tameidiog am ormod o amser. Croesawodd gynigion y Tasglu gan ddweud  eu bod yn mynd i’r afael â gwendidau sylfaenol rhwydwaith rheilffordd dameidiog yr ardal, nad yw’n cyflawni ei botensial, ac yn edrych ar y seilwaith rheilffordd fel un endid cysylltiedig.

Yn y llythyr, a gyfeiriwyd at y Cynghorydd Samantha Dixon, Cadeirydd Tasglu Rheilffordd Gogledd Cymru a Mersi a’r Ddyfrdwy, ychwanegodd Mr Lucas: “Nid yw ein rhwydwaith rheilffordd yn gallu cystadlu â cherbydau modur ar hyn o bryd ac ni all wneud cyfraniad sylweddol i dwf economaidd. Bydd eich cynigion yn galluogi gwell cysylltedd â’r dinasoedd sy’n arwain y cysyniad o Bwerdy’r Gogledd a’u meysydd awyr ym Manceinion a Lerpwl.

“Byddant yn galluogi gwell symudiad o fewn y rhanbarth er mwyn manteisio ar gyfleoedd gwaith ac atyniadau ymwelwyr.  Rydym wedi’n cyffroi’n fawr gan y cynigion i gysylltu hyd at saith o ardaloedd menter pwysig o Ynys Môn i Warrington, gan gynnwys ardaloedd twf cyflogaeth yng Nglannau Dyfrdwy, Wrecsam, Caer, Birkenhead ac Ellesmere Port. Rydym yn croesawu gwell gwasanaethau i Lundain a’r nod o fod yn barod am HS2 erbyn 2027 fel materion hanfodol.”

Bu i Mr Lucas hefyd fynychu cyfarfod Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar 1 Awst i gefnogi’r ymgyrch.

Meddai’r Cynghorydd Samantha Dixon: “Mae cefnogaeth cystal gan y Grŵp Seneddol Hollbleidiol yn wych i’n hymgyrch ni gan ei fod yn cynrychioli ASau o’r holl wahanol bleidiau gwleidyddol gydag etholaethau ar hyd a lled Gogledd Cymru, Wirral a Swydd Gaer. Dengys hyn bod aelodau Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi i gyd yn cydnabod arwyddocâd yr ymgyrch hon.

“Dyma ymgyrch sydd â’r potensial gwirioneddol i drawsnewid bywydau pobl ar draws y rhanbarth ehangach a thu hwnt. Os yw’n llwyddiannus, bydd Growth Track 360 yn diogelu seilwaith cludiant y rhanbarth at y dyfodol ac yn darparu rhwydwaith cysylltiedig, cydweithredol ac effeithiol fydd yn galluogi’n cwmnïau a’n diwydiannau i ehangu eu gorwelion a chystadlu’n effeithiol ar raddfa genedlaethol a byd-eang.”

Dywedodd Ashley Rogers, Cadeirydd Cyngor Busnes Gogledd Cymru: “Rydym yn croesawu cefnogaeth GSH i ymgyrch Growth Track 360. Mae gan y buddsoddiad y potensial i adfywio’r economi ranbarthol a rhoi hwb hirddisgwyliedig y mae ei ddirfawr angen iddo, ac mae’n wych gweld ysgogiad mor gryf yn tyfu y tu ôl i’r ymgyrch, a hynny o’r sector cyhoeddus a phreifat fel ei gilydd.  Edrychwn ymlaen at weld y gefnogaeth yn parhau i ymledu wrth i bobl sylweddoli pa mor hanfodol yw’r buddsoddiad hwn i ddyfodol ein heconomi. Rydym hefyd eisiau annog aelodau’r cyhoedd a’r gymuned fusnes i gefnogi Growth Track 360 drwy lofnodi ein hymgyrch ar lein yn www.growthtrack360.com .”