ymgyrch growth track 360 yn dweud bod rhaid i fasnachfraint rheilffyrdd cymru a’r gororau fod yn ‘drawsnewidiol’

Mae cynrychiolwyr Tasglu Rheilffordd Gogledd Cymru a Mersi a’r Ddyfrdwy (GCaMD) wedi bod yn Nhŷ’r Cyffredin i ddadlau o blaid gwell gwasanaethau rheilffordd ar draws Gogledd Cymru a Swydd Gaer.

Roedd y grŵp yn rhoi tystiolaeth i ASau o ymchwiliad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig i Fasnachfraint Rheilffyrdd Cymru a’r Gororau, ac yn annog aelodau seneddol i gefnogi gwell gwasanaethau trên fydd o gymorth i bobl leol gyrraedd y lleoedd y mae angen iddynt eu cyrraedd ar gyfer eu gwaith, hamdden neu i astudio.

Ymunodd Cadeirydd Tasglu Rheilffordd GCaMD, y Cynghorydd Samantha Dixon, ag Ashley Rogers, Cadeirydd Cyngor Busnes Gogledd Cymru, ac Iwan Prys Jones, Rheolwr Rhaglen Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, i gyflwyno’u hachos ger bron yr ymchwiliad Seneddol, fydd yn cyfrannu argymhellion am welliannau i wasanaethau cyn y cais ar gyfer y fasnachfraint.

Enwyd Abellio, Arriva, KeolisAmey ac MTR fel ymgeiswyr dewisol ar gyfer Masnachfraint Rheilffyrdd dielw newydd Cymru a’r Gororau, gaiff ei ddyfarnu’n gynnar ym mis Hydref 2018.

Bu i Ken Skates, yr Ysgrifennydd dros Gludiant a’r Economi, oedd hefyd yn cyflwyno ger bron yr ymchwiliad, ddisgrifio’r penderfyniad fel ‘cyfle sy’n dod unwaith mewn cenhedlaeth’ i wella cludiant i deithwyr. Dywedodd hefyd bod y rhagolygon na fyddai unrhyw dwf mewn niferoedd teithwyr yn y contract presennol gydag Arriva Trains wedi bod yn “fethiant aruthrol”.

Cafodd Tasglu Rheilffordd GCaMD, sy’n cynnwys arweinwyr gwleidyddol a sector cyhoeddus a chynrychiolwyr busnes, ei greu i amlygu a hyrwyddo gwelliannau i reilffyrdd ar draws Gogledd Cymru a’r rhanbarth trawsffiniol.

Mae’r tasglu wedi cynhyrchu Prosbectws Rheilffordd Growth Track 360, sy’n nodi gweledigaeth am fuddsoddiad gwerth £1 biliwn yn y rheilffyrdd ar draws Gogledd Cymru a’r rhanbarth trawsffiniol, fyddai’n darparu 70,000 o swyddi newydd ac yn cynyddu gwerth ychwanegol gros (GVA) yr ardal i £50 biliwn.

Meddai’r Cynghorydd Dixon: “Roeddem yn falch iawn o gael y cyfle i gyflwyno’r achos am wasanaethau rheilffyrdd gwell, cyflymach ac amlach yn San Steffan. Mae masnachfraint nesaf Cymru a’r Gororau yn cynnig cyfle na allwn ei golli i sicrhau’r ddarpariaeth briodol er mwyn cyflwyno’r gwasanaethau rheilffordd gwell, mwyaf diweddar y mae ar bobl sy’n byw ar hyd a lled Gogledd Cymru a Swydd Gaer gymaint o’u hangen.

“Rydym eisiau gweld newid yn y bobl sy’n defnyddio’r rheilffyrdd fel prif ffordd o deithio, ac er mwyn i hynny ddigwydd, rhaid gwneud buddsoddiad sylweddol. Mae’r cerbydau presennol yn hen ac yn annigonol ac mae angen i ni sicrhau bod cytundeb masnachfraint nesaf Cymru a’r Gororau yn cynnwys ymrwymiad gwirioneddol i fuddsoddi.

“Un o nodau allweddol ymgyrch Growth Track 360 yw cael rhwydwaith rheilffyrdd integredig i’r un rhanbarth hwn, sy’n gwasanaethu bron i filiwn o bobl – bydd angen rheolaeth ofalus ac arloesol ar gyfer hyn, felly bydd angen i ni hefyd weld darpariaeth ar ei gyfer o fewn y fasnachfraint nesaf.”

Dywedodd Ashley Rogers: “Mae cysylltiadau rheilffyrdd da yn hanfodol ar gyfer iechyd yr economi ar bob lefel – o’r corfforaethau mwyaf i’r micro fusnesau lleiaf. Mae gwasanaethau effeithlon, fforddiadwy a rheolaidd, sy’n cyrraedd yr ardaloedd sydd eu hangen, yn allweddol. Mae angen i ni drawsnewid profiad y teithwyr drwy ei gwneud yn bosibl darparu gwasanaethau trên cyflymach ac amlach sy’n diwallu anghenion y teithwyr.”

Meddai Iwan Prys Jones: “Mae masnachfraint Cymru a’r Gororau yn gyfle na allwn ei golli i ddiweddaru’r gwasanaethau rheilffordd, felly mae’n allweddol i’r cytundeb masnachfraint gael ei rwymo’n gyfamodol i ddarparu gwell gwasanaethau, fydd yn diogelu’r system at y dyfodol ac yn galluogi’r gwaith o foderneiddio, uwchraddio ac ehangu’r rhwydweithiau rheilffordd ymhellach.”

Mewn tystiolaeth a gyflwynwyd ger bron yr ymchwiliad yn flaenorol, dywedodd y ddirprwyaeth nad oedd y fasnachfraint gyfredol yn caniatáu ar gyfer unrhyw dwf mewn teithwyr na darpariaeth ar gyfer trenau ychwanegol, oedd yn cyfyngu ar y gallu i ddatblygu a moderneiddio gwasanaethau.

Amlygodd y ddirprwyaeth hefyd bwysigrwydd cynnal y prif lif teithwyr trawsffiniol yn ogystal â’r rheiny o fewn Cymru y mae masnachfraint Cymru a’r Gororau yn eu gwasanaethu, gan gynnwys y rheiny â Maes Awyr Rhyngwladol Manceinion.

Mae ymgyrch Growth Track 360 yn cael ei arwain gan Dasglu Rheilffordd Gogledd Cymru a Mersi a’r Ddyfrdwy (GCaMD) ac mae ganddo gefnogaeth wyth awdurdod lleol y rhanbarth, Partneriaeth Fenter Leol Swydd Gaer a Warrington, Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Siambr Fasnach Gorllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru.

Gall pobl ddangos eu cefnogaeth i Growth Track 360 drwy ychwanegu eu henwau at yr ymgyrch ar-lein yn
www.growthtrack360.com.