dros 400 o fusnesau yn cefnogi ymgyrch growth track 360

Mae mwy na 400 o gwmnïau yn cynrychioli 300,000 o bobl o bob rhan o Ogledd Cymru, Sir Gaer a Mersi a’r Ddyfrdwy wedi lleisio eu cefnogaeth i ymgyrch fawr i ddarparu gwasanaethau rheilffordd cyflymach, mwy rheolaidd i bobl ar draws y rhanbarth ehangach.

Mae’r ymgyrch ar-lein i sicrhau’r buddsoddiad sydd ei angen i gyflawni newid ar draws gwasanaethau rheilffordd y rhanbarth ehangach wedi cael cefnogaeth gref gan fusnesau, gwleidyddion a’r cyhoedd yn gyffredinol. Mae busnesau yn dweud y bydd gwell gwasanaethau rheilffordd yn helpu i ddarparu cyfradd twf busnes cyflymach ac yn gweithredu fel sbardun economaidd ar gyfer y rhanbarthau.

Mae ymgyrch Growth Track 360 yn cael ei arwain gan Dasglu Rheilffordd Gogledd Cymru a Mersi a’r Ddyfrdwy (GCaMD) ac mae ganddo gefnogaeth wyth awdurdod lleol y rhanbarth, Partneriaeth Fenter Leol Swydd Gaer a Warrington, Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Siambr Fasnach Gorllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru.

Mae’n galw am:

 

  • Drydaneiddio’r rheilffordd o Crewe i Ogledd Cymru fel y gellir cysylltu’r rhanbarth â HS2 ac y gall trenau cyflym o Lundain barhau i Fangor a Chaergybi
  • Dyblu amlder y trenau rhwng Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru a Wrecsam i Fanceinion trwy Gaer
  • Buddsoddi mewn cerbydau newydd, modern, gyda gwell cyfarpar
  • Creu gwasanaethau newydd rhwng Lerpwl a Maes Awyr Lerpwl i Ogledd Cymru a Wrecsam drwy Gaer (Halton Curve)
  • Dyblu amlder teithiau rhwng Wrecsam a Lerpwl trwy Lannau Dyfrdwy a Bidston.

 

“Mae cysylltedd da yn hanfodol”

Meddai Samantha Dixon, Cadeirydd Tasglu Rheilffordd Gogledd Cymru a’r Mersi a’r Ddyfrdwy:  “Mae cysylltedd da yn elfen hanfodol o economi iach, sy’n tyfu – gan alluogi llif nwyddau a gwasanaethau, ac yn hollbwysig, helpu cwmnïau i ddenu a chadw gweithlu dawnus, medrus. Mae lefel y gefnogaeth i’r ymgyrch ar ddwy ochr y ffin ac o bob sector o’r economi yn dangos yn wirioneddol pa mor hanfodol yw hi i gyflwyno newid.  Rydym yn edrych ymlaen at weld momentwm parhaus y tu ôl i’r ymgyrch wrth i ni weithio i sicrhau bod ein rheilffyrdd yn addas ar gyfer y dyfodol ac yn barod am y dasg o agor rhanbarth ehangach a gwella ei allu economaidd.”

Mae ymchwil cychwynnol yn awgrymu y byddai pecyn buddsoddiadau Growth Track 360 yn cefnogi amcangyfrif o 70,000 o swyddi newydd ar draws rhanbarth Gogledd Cymru a Mersi a’r Ddyfrdwy a chyflymu twf economaidd fel bod GVA (gwerth nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir bob blwyddyn yn y rhanbarth) yn tyfu i £50.5bn mewn 20 mlynedd.

 

“Ardal ddeinamig gyda photensial”

Dywedodd Ashley Rogers, Cadeirydd Cyngor Busnes Gogledd Cymru ac aelod o Dasglu Rheilffordd Gogledd Cymru a Mersi a’r Ddyfrdwy: “Rydym yn falch iawn o weld cefnogaeth mor gryf gan fusnesau a phobl ar draws y Gogledd Orllewin a Gogledd Cymru. Mae cysylltiadau rheilffordd gwell yn sbardun twf allweddol a fyddai’n sicrhau manteision eang ar gyfer busnes ac i bobl sy’n byw ar draws y rhanbarth ehangach. “Mae hwn yn faes deinamig sydd â’r potensial i gyflawni degau o filoedd o swyddi newydd o fewn yr 20 mlynedd nesaf, ac mae gan seilwaith gwell rôl allweddol i’w chwarae i sicrhau bod y weledigaeth hon yn realiti – creu cyfleoedd, gan ddenu pobl dalentog, fedrus ar draws y DU a helpu’r rhanbarth i fanteisio ar ei gryfderau cynhenid ac i dyfu a datblygu.

Mae cwmnïau o amrywiaeth o sectorau ar draws Gogledd Cymru, Sir Gaer a Mersi a’r Ddyfrdwy gan gynnwys gwasanaethau ariannol, proffesiynol a logistaidd; gweithgynhyrchu uwch, adeiladu a pheirianneg; a thwristiaeth, lletygarwch, hamdden a manwerthu wedi ychwanegu eu cefnogaeth i’r arolwg.

Meddai Liz Carnie, Cyfarwyddwr Cyllid yn Sw Caer, a oedd yn cefnogi’r ymgyrch: “Mae Sw Caer yn denu 1.7 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â gweithredwyr cludiant i hyrwyddo’r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy i’n hymwelwyr. Bydd gwell gwasanaethau rheilffordd i Gaer yn sicrhau bod ein hymwelwyr presennol a’r dyfodol yn ystyried teithio ar y rheilffyrdd fel ffordd ymarferol a deniadol o gyrraedd y sw a’r ddinas, a fydd yn darparu effeithiau positif i’n dinas a’n hamgylchedd.

 

 

“Cludiant modern o ansawdd yn alluogwr allweddol”

Dywedodd Martin Gray, Cyfarwyddwr Cyllid Siemens, sydd hefyd yn ymuno â’r ymgyrch Growth Track 360: “Fel allforiwr byd-eang o gynnyrch a weithgynhyrchir yn lleol yng Ngogledd Cymru mae ein busnes yn dibynnu ar ddenu gweithlu medrus iawn, amrywiol. Mae cysylltiadau cludiant modern, o ansawdd uchel yn un o’r galluogwyr allweddol i sicrhau bod gan ein rhanbarth economi ffyniannus a bod gennym fynediad i dalent allweddol yn rhanbarth Gogledd Cymru a Mersi a’r Ddyfrdwy. Mae cysylltiadau cludiant rhagorol yn rhan allweddol o ran cefnogi ein hanghenion logistaidd hanfodol i sicrhau bod ein busnes yn hawdd ei gyrraedd a gall ein cynnyrch gael eu cludo yn fyd-eang. Rydym yn cymryd lles ein gweithwyr o ddifrif a gall buddsoddi mewn rhwydwaith rheilffyrdd o ansawdd uchel yn ein rhanbarth ond cefnogi’r nod hwn.

Meddai Rachel Clacher, Cyfarwyddwr gwasanaeth ateb ffôn a’i bencadlys yn Wrecsam, Moneypenny,: “Mae Moneypenny yn fusnes llwyddiannus sy’n cyflogi dros 500 o bobl ar hyn o bryd gydag uchelgais i gynyddu’r nifer hwn i 1000 dros y 3 blynedd nesaf. Me gwell cysylltedd a chysylltiadau effeithlon yn hanfodol i ni sicrhau mynediad i’r marchnadoedd llafur sy’n ofynnol gennym. Mae Moneypenny yn llwyr gefnogi’r prosbectws rheilffyrdd.”

Roedd busnesau yn nodi rhesymau gwahanol am eu cefnogaeth, dros 75 y cant o gwmnïau mwy o faint wedi nodi’r arbedion amser y byddai Growth Track 360 yn gyflenwi fel eu prif gymhelliant dros gefnogi’r ymgyrch.

Dywedodd 64 y cant o fusnesau llai y byddai’r ymgyrch yn rhoi gwell mynediad iddynt i gwsmeriaid.  Roedd tua 54 y cant o gwmnïau llai hefyd o’r farn y byddai gwell gwasanaethau rheilffordd yn gwella recriwtio ac yn eu helpu i ehangu a chreu swyddi.

Dywedodd y busnesau hefyd y byddai ymgyrch yn helpu i leihau traffig ar yr A55, yn creu gwell cysylltiadau â gweddill y DU, ac yn cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd drwy leihau’r defnydd o drên diesel.