Growth Track 360 backed by Prime Minister

y prif weinidog yn cefnogi gweledigaeth £1 biliwn i’r rheilffrydd i greu 70,000 o swyddi

Mae’r Prif Weinidog, Theresa May wedi cefnogi ymgyrch i sicrhau gwerth £1 biliwn o welliannau i reilffyrdd a fyddai’n trawsnewid economi ranbarthol Gogledd Cymru a Sir Gaer ac yn creu 70,000 o swyddi newydd dros 20 mlynedd.

Dywedodd y Prif Weinidog wrth Dŷ’r Cyffredin y byddai’r Adran Drafnidiaeth yn cydweithio’n agos gydag ymgyrchwyr a Llywodraeth Cymru i ystyried beth ellir ei gyflawni fel rhan o’r ymgyrch.

Mae’r ymgyrch – sy’n cael ei alw’n Growth track 360 – yn cael ei arwain gan gynghrair traws-ffiniol o arweinwyr busnes, gwleidyddol a’r sector cyhoeddus.

Os bydd yn llwyddiannus, byddai’n arwain at hwb enfawr i economïau Gogledd Cymru, Sir Gaer a Chilgwri, gan eu cysylltu â lein arfaethedig yr HS2 rhwng Llundain a Gogledd Lloegr.

Tanysgrifiwch i’n e-gylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf am weithgaredd ymgyrch Growth Track 360.

Mae’r ymgyrch yn cael ei arwain gan Dasglu Rheilffordd Gogledd Cymru a Mersi a’r Ddyfrdwy ac mae wedi cael cefnogaeth gan wyth awdurdod lleol y rhanbarth, Partneriaeth Fenter Leol Swydd Gaer a Warrington, Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Siambr Fasnach Gorllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru.

Gan ymateb i gwestiwn gan AS Dyffryn Clwyd Dr James Davies, dywedodd Mrs May: “Rwy’n croesawu sefydliad Tasglu Gogledd Cymru a Mersi a’r Ddyfrdwy a’r gwaith maent yn ei wneud.

“Mae’r cynllun mae’n ei nodi yn gosod rhaglen uchelgeisiol o welliannau i reilffordd yr ardal ac rwy’n siŵr y byddant yn blaenoriaethu’r opsiynau mwyaf addawol. Bydd yr Adran Drafnidiaeth yn parhau i gydweithio’n agos gyda’r Dasglu a Llywodraeth Cymru i ystyried beth ellir ei gyflawni ar y cyd.”

Croesawyd ei sylwadau heddiw gan arweinydd Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer, Cynghorydd Samantha Dixon, a ddywedodd: “Rwy’n croesawu cefnogaeth y Prif Weinidog tuag at gynnig uchelgeisiol Growth Track 360 osodir gan Dasglu Gogledd Cymru a Mersi a’r Ddyfrdwy.

“Ynghyd â’m cydweithwyr ar y Dasglu, edrychaf ymlaen yn fawr iawn i weithio gyda Llywodraeth Y DU a Llywodraeth Cymru i droi’r dyheadau uchelgeisiol rydym wedi eu gosod yn realiti cyn gynted ag sy’n bosib.”

Gofynnodd Dr Davies i’r Prif Weinidog yn ystod Cwestiynau i’r Prif Weinidog os byddai’n cefnogi’r gwelliannau arfaethedig y dywedodd ef y byddai’n helpu i ddatgloi gwir botensial rhanbarth economaidd Gogledd Cymru a Mersi a’r Ddyfrdwy a sicrhau fod yr ardal yn manteisio’n llawn o fod yn rhan gyfannol o Northern Powerhouse, ac wedi ei chysylltu gyda gweddill y wlad drwy’r hwb HS2 arfaethedig yn Crewe.

Gan siarad yn ddiweddarach, dywedodd Dr Davies: “Byddaf yn parhau i gefnogi gwelliannau rheilffordd i Ogledd Cymru gan eu bod yn llunio rôl allweddol i wella’r economi leol a helpu i greu swyddi a chyfleodd newydd mewn trefi fel y Rhyl.”


Tanysgrifiwch i’n e-gylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf am weithgaredd ymgyrch Growth Track 360.